SL(6)454 – Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024 (“y Rheoliadau hyn”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru (“y cyd-bwyllgor”), gan gynnwys ei weithdrefnau a’i drefniadau gweinyddol.

Bydd y cyd-bwyllgor yn disodli Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys.

Mae Cyfarwyddydau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024, a wnaed ar 6 Chwefror 2024, yn darparu y bydd Byrddau Iechyd Lleol Cymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau penodol. Er mwyn arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu’r cyd-bwyllgor i fod yn weithredol ar 1 Ebrill 2024.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

(a) cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3),

(b) penodi cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion i'r cyd-bwyllgor (rheoliad 4 ac Atodlen 1),

(c) y gofynion cymhwystra ar gyfer aelodau o'r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2),

(d) deiliadaeth swydd, terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau o'r cyd-bwyllgor (rheoliadau 6 i 9), ac

(e) penodi is-gadeirydd y cyd-bwyllgor a’i bwerau (rheoliadau 10 i 12).

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheolau sefydlog ynghylch rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn dirymu dwy set o Reoliadau.

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 6 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 2, mae'r term “aelod nad yw'n swyddog” wedi'i ddiffinio ar gyfer y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, mae’r un term wedi’i ddiffinio’n wahanol ym mharagraff 4(6) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, at ddibenion paragraff 4(5)(a) o’r Atodlen honno. Felly, dylai’r diffiniad o “aelod nad yw’n swyddog” yn rheoliad 2 esbonio i’r darllenydd nad yw’n gymwys i baragraff 4(5)(a) o Atodlen 2.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “corff gwasanaeth iechyd”, mae nifer o gyrff wedi’u rhestru ond nid yw eu hystyr wedi’i ddiffinio ar gyfer y Rheoliadau hyn ac eithrio “Bwrdd Iechyd Lleol”. Y cyrff a restrir heb ystyr diffiniedig yw GIG Lloegr, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yr Awdurdod Ymchwil Iechyd, Awdurdod Iechyd Arbennig, Ymddiriedolaeth y GIG ac Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2, yn is-baragraff (2), mae’r geiriau agoriadol yn datgan “At ddibenion yr is-baragraff hwn…”. Fodd bynnag, ymddengys mai’r bwriad yw diffinio ystyr y dyddiad euogfarn ar gyfer is-baragraff (1) ym mharagraff 2 o Atodlen 2. Felly, dylai ddatgan “At ddibenion is-baragraff (1)…” fel bod ystyr y dyddiad euogfarn yn gymwys i is-baragraff (1) o baragraff 2 yn Atodlen 2 (gweler paragraff 6(2) o Atodlen 2). i’r Rheoliadau hyn fel enghraifft sydd wedi’i drafftio’n gywir).

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn Atodlen 2, ym mharagraffau 4(5)(a) a (d), a 5(b), mae’r term “Bwrdd Gofal Integredig” wedi’i ddefnyddio ond nid yw ei ystyr wedi’i ddiffinio at ddibenion y paragraffau hynny yn yr Atodlen honno.

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6(1)(a), mae'n cyfeirio at “Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 11 o’r Ddeddf”. Fodd bynnag, mae’r term “Bwrdd Iechyd Lleol” eisoes wedi’i ddiffinio i olygu “Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru sydd wedi ei sefydlu yn unol ag adran 11(2) o’r Ddeddf” yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn. Felly, mae’r geiriau ychwanegol ym mharagraff 6(1) o Atodlen 2 yn ddiangen, ond maent hefyd ychydig yn wahanol i’r diffiniad a geir yn rheoliad 2.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Ym mharagraff 6(1)(b) ac (c) o Atodlen 2, rhoddir ystyr i’r termau “ymddiriedolaeth y GIG” ac “Awdurdod Iechyd Arbennig” i’r paragraff hwnnw fel rhai a sefydlwyd o dan adrannau 18 a 22 yn y drefn honno o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Fodd bynnag, mae’r termau hyn hefyd yn cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o’r Rheoliadau hyn ond nid ydynt wedi’u diffinio yn rheoliad 2. Felly, nid roddwyd ystyr iddynt ar gyfer darpariaethau eraill y Rheoliadau hyn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

7.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “y cyd-bwyllgor”, cyfeirir at Gyfarwyddydau Cyd-bwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2024 ond nid yw’n ymddangos eu bod wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Gall y ffaith nad yw’r Cyfarwyddydau hyn ar gael atal y cyhoedd rhag cael mynediad at gyfraith berthnasol yn y maes hwn. Yn ogystal, dylai fod troednodyn gyda'r rhif “LlC” ar gyfer y Cyfarwyddydau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwyntiau adrodd.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

26 Chwefror 2024